Ystyr y gair ‘Rhwydfoesau’
yw’r moesau sy’n addas ar gyfer rhyngweithio ar y rhyngrwyd. Yn yr Uned Gwella
Dysgu ac Addysgu, mae staff yn aml yn holi am ganllawiau priodol i fyfyrwyr
wrth ryngweithio ar-lein.
Does dim un agwedd benodol at rwydfoesau sy’n addas i bawb. Gan fod
senarios addysgu gwahanol yn galw am ganllawiau gwahanol, bydd angen i chi
benderfynu ar y rheolau mwyaf priodol i’ch myfyrwyr chi. Rydym wedi llunio’r
ddogfen hon i’ch helpu i wneud y penderfyniadau hynny wrth addysgu’n gydamserol
(e.e. drwy Teams) ac yn anghydamserol (e.e. byrddau trafod) yn defnyddio rhyngweithio
llafar a/neu ysgrifenedig.